Ymunwch ag artistiaid Arad Goch a Theatr Byd Bach am weithdai creadigol hwyliog i Ddathlu Dewi i baratoi ar gyfer Parêd Gŵyl Dewi yn Aberteifi ar 27 Chwefror 2026 – 9.30am.
Gweithdy celf a murlunio gyda Gwennan Davies.
Cadwch le! Niferoedd cyfyngedig, felly archebwch ymlaen llaw drwy e-bostio Llŷr Ilyr@aradgoch.org.
Gweithdy iaith Gymraeg yw hwn sydd ar agor i bob person ifanc. Addas ar gyfer oedrannau Ysgol Uwchradd. £5 y diwrnod.